Digwyddiadau a Gweithgareddau

Cynon Linc > Digwyddiadau a Gweithgareddau

Yn Cynon Linc yn Aberdâr byddwch yn darganfod rhaglen sy’n newid yn gyson o weithgareddau a digwyddiadau poblogaidd a fydd yn cael eu cynnal yn ein canolfan gymunedol sydd wedi cael ei hadnewyddu. Mae’r staff, y gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n darparu’r gweithgareddau yn sicrhau croeso cynnes i’r holl ymwelwyr.


Mae amrywiaeth fawr o weithgareddau - boreau coffi, sesiynau crefftau, tai chi, ymarferion mewn cadair - ac yn wir mae rhywbeth bob amser yn digwydd yn Cynon Linc. Mae’r rhaglen yn cynnwys dosbarthiadau wythnosol a digwyddiadau arbennig unwaith yn unig megis dawnsio amser te a chinio Nadolig.


Gofalwch eich bod yn gwybod beth yw’r digwyddiadau diweddaraf drwy fynd i  https://www.cynonlinc.org.uk/events neu drwy ddilyn tudalen Facebook Cynon Linc

Cynon Linc Facebook
Share by: