Clinig Simply Nails

Cynon Linc > Clinig Simply Nails

Rydym yn cynnal Clinig Simply Nails o Cynon Linc. Mae’n agored bob dydd Iau a bob yn ail ddydd Mercher. Mae’n cynnig gwasanaeth gofal ewinedd fforddiadwy o ansawdd.


I lawer o bobl, mae cymalau poenus ac ewinedd traed caled sy’n rhy hir yn ei gwneud yn amhosibl bron i wisgo esgidiau a cherdded yn gyfforddus. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn rhoi fawr o sylw i dorri ein hewinedd, ond os ydych yn oedrannus neu’n dioddef oherwydd problemau symudedd yna dylai’r gwasanaeth Simply Nails fod yn rhan allweddol o’ch rhaglen ofal iechyd.


Er mwyn trefnu apwyntiad ffoniwch 01443 490650 neu ewch i https://www.ageconnectsmorgannwg.org.uk/nail-cutting

Share by: