Age Connects Cymru

Age Connects Cymru

Mae Age Connects Morgannwg yn aelod o Age Connects Cymru, cwmni cydfuddiannol sy'n bodoli i newid agweddau at heneiddio a thrwy hynny wella bywydau pobl.

Mae Age Connects Cymru yn barod i herio'r agweddau diwylliannol a sefydliadol i bobl hŷn yng Nghymru a bydd yn cyflawni hyn drwy wrando ar farn pobl hŷn a defnyddio'r rhain i helpu newid barn cymdeithas o oedran, lle mae bod yn hŷn yn cael ei ystyried fel cam yng nghwrs bywyd sydd mor werthfawr ag unrhyw un arall.

Bydd Age Connects Cymru yn gadarn wrth ddadlau yn bositif am le yn ein cymdeithas ar gyfer pobl hŷn.

Trwy Age Connects Cymru rydym yn cynnal traddodiad ein sefydliadau o weithio gyda'i gilydd ac yr ydym yn awr yn bwriadu cymryd cam blaengar i weithio ar y cyd â sefydliadau eraill sy'n rhannu ein blaenoriaethau. Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael i ni i hyrwyddo lles pobl hŷn yng Nghymru.

Mae Age Connects Cymru yn sefydliad sy'n cydweithio ag eraill tra hefyd yn cefnogi gwirfoddoli o fewn a thu allan Age Connects Cymru.

Rydym wedi creu Age Connects Cymru i gynnal ein gallu i gydweithio ar draws Cymru gydag eraill sy'n rhannu ein pwrpas. Ein prif amcan yw Ymgyrchu a Dylanwadu. Mae Age Connects Cymru yn ymwneud â datblygu rôl sy'n mynd y tu hwnt i'r mater o iechyd a gofal cymdeithasol, i un sy'n archwilio sut mae pobl hŷn yn cael gafael ar wybodaeth, beth yw eu profiadau o wasanaethau, a sut mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan sefydliadau.

Rydym yn argyhoeddedig y gall cydweithio wella ein cymorth i bobl hŷn yn y gymuned yn sylweddol. Mae'n bwysig cydnabod bod pob un o'r pum sefydliad yn cynnal ei annibyniaeth ac ymreolaeth. Mae aelodau Age Connects Cymru yn cymryd rhan mewn cymunedau lleol, gan gyflwyno gwasanaethau, sydd â hanes hir ac arbenigedd mewn gweithio gyda phobl hŷn i ddeall yr heriau maent yn eu hwynebu.

Am fwy o wybodaeth am weithgareddau Age Connects Cymru, ewch i www.ageconnectswales.org.uk neu cymerwch cip ar ein Cyfeiriadur o Wasanaethau.
Share by: