Gadewch Etifeddiaeth

Gadewch Etifeddiaeth i Ni

Yn Age Connects Morgannwg rydym yn gwybod mai gofalu am eich teulu yw eich blaenoriaeth gyntaf, a bod dewis pwy i'w gofio yn eich Ewyllys yn benderfyniad mawr. Gwneud Ewyllys yw'r ffordd orau a symlaf i ddiogelu dyfodol pawb a sicrhau bod eich asedau yn mynd at y bobl a’r achosi sy’n agos at eich calon. Mae'n gamsyniad cyffredin bod rhaid i chi fod yn gyfoethog i adael etifeddiaeth. Mae cymynroddion yn gwneud cyfraniad hanfodol at ein helusen ac mae hyd yn oed cyfran fechan o'r hyn sy'n weddill, ar ôl cymryd gofal o’ch teulu, yn cael effaith enfawr ar ein gallu i barhau i redeg gwasanaethau hanfodol am flynyddoedd lawer i ddod.

Os fel ni, byddwch yn teimlo'n angerddol y dylai eich cefnogaeth aros yn yr ardal leol a helpu'r rhai sydd mewn angen sy'n byw yn eich cymunedau, rydym yn gofyn yn garedig i chi ystyried gadael rhodd yn eich Ewyllys i Age Connects Morgannwg. Mae pob ceiniog a roddwyd i'n helusen yn cael ei wario yn lleol a bydd yn mynd tuag at helpu'r miloedd lawer o bobl hŷn sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr neu Ferthyr Tudful sydd wir angen ein help.

Cysylltwch ag Esyllt Williams i ddarganfod mwy am ein Cynllun Ysgrifennu Ewyllys a sut y gallai rhodd yn eich Ewyllys gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn neu i ofyn am wybodaeth bellach. Ffoniwch 01443 490650 neu information@acmorgannwg.org.uk
Share by: