Dod yn Ymddiriedolwr

Dod yn Ymddiriedolwr

Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes cadarn. Ymunwch â ni er mwyn bod yn rhan o’n dyfodol disglair.


Ar hyn o bryd mae Age Connects Morgannwg yn un o'r cyfnodau mwyaf cyffrous yn ei hanes. Gydag arian sylweddol y Loteri Fawr, bydd yn darparu prosiect hwb cymunedol integredig a bywiog a fydd yn cynorthwyo'r gymuned gyfan i gymryd rheolaeth dros ei hiechyd a'i lles. 


Rydym yn chwilio am bobl a chanddynt weledigaeth, sgiliau ac ymrwymiad i arwain cyfeiriad strategol ein helusen.


 Mae gan ein hymddiriedolwyr (di-dâl) gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod adnoddau'r elusen yn cael eu rheoli'n briodol ac yn cael eu defnyddio at ddibenion cyfreithiol yr elusen yn unig.


 Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn trefnu rhaglen ymsefydlu, hyfforddiant a chymorth trylwyr ar eich cyfer, fel y gallwch wneud cyfraniad ystyrlon i ddyfodol pobl hŷn ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

 Yn dilyn ein hymgyrch recriwtio ddiweddar, rydym yn awyddus i recriwtio ymddiriedolwyr:

  • A chanddynt gefndir rheoli arian cadarn i gefnogi ein Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
  • A chanddynt arbenigedd ym meysydd Codi Arian, Ymgyrchu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynhwysiant digidol
  • O gefndiroedd amrywiol sy’n gallu gwneud cyfraniad o ran eu profiad, eu safbwynt a’u sgiliau i’n sefydliad i annog bwrdd creadigol, arloesol sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol y mae’n eu gwasanaethu.

 

Er mwyn cael sgwrs anffurfiol ynglŷn â bod yn Ymddiriedolwr a’r hyn mae’n ei olygu, cysylltwch â Natasha Applasamy, ein Pennaeth Cymorth Busnes drwy ffonio 01443490871, neu drwy anfon e-bost i natasha.applasamy@acmorgannwg.org.uk. 

 

Er mwyn ymgeisio, lawrlwythwch ein Pecyn Ymgeisio Aelodau’r Bwrdd   a’r Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal


Dyddiad cau y Cais: Dydd Iau, 23 Rhagfyr 2021, hanner dydd.


Cyfweliadau: Ionawr 2022.

Share by: