Clwb Cinio

Cynon Linc  > Clwb Cino

Yng nghanol Cynon Linc mae’r Hyb - sef cegin a siop goffi sydd wedi’u cynllunio’n berffaith, ac sy’n agor 5-niwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5pm. Yr Hyb yw’r lle delfrydol i fwynhau coffi cyflym a chacen, pryd ysgafn iach neu ginio sylweddol.


Rydym hefyd yn cynnal ein Clwb cinio poblogaidd i rai dros 60 oed o’r Hyb. Rhwng 12 a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gallwch ddewis cinio dau gwrs newydd ei goginio oddi ar y fwydlen arbennig. Dim ond £6 yw’r pris, a gallwch ychwanegu te neu goffi am £1.


Mae dewisiadau yn newid yn ddyddiol a cheir digonedd o amrywiaeth. Er enghraifft, gallech ddewis pysgod a sglodion gyda phwdin reis i ddilyn, neu bastai cyw iâr a chennin gyda llysiau a thatws, a chacen siocled yn bwdin! 


Mae Andrew Mason, y Prif Gogydd profiadol yn sicrhau bod y bwyd bob amser yn flasus. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ar ôl treulio mwy na 30 o flynyddoedd yn y diwydiant arlwyo. Rhai o uchafbwyntiau ei yrfa oedd gweithio fel Prif Gogydd i’r BBC am 4 blynedd ac fel pennaeth yr adran arlwyo yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru am 3 blynedd.


Dysgwch ragor am gegin yr Hyb drwy fynd i https://www.cynonlinc.org.uk/eat



Gallwch weld dewisiadau dyddiol y Clwb Cinio drwy ddilyn tudalen Facebook Cynon Linc.

Cynon Linc Facebook
Share by: