Canolfan Wybodaeth a Chyngor

Cynon Linc  > Canolfan Wybodaeth a Chyngor

Yn Cynon Linc byddwch yn dod o hyd i Ganolfan Wybodaeth a Chyngor ACM. Mae wedi’i chynllunio ar gyfer rhai dros eu hanner cant ac wedi’i lleoli yn y dderbynfa. Mae ar agor 5 niwrnod yr wythnos. 


Ewch i’r Ganolfan Wybodaeth i gael cyngor o safon y gallwch ymddiried ynddo a chymorth ar amrywiaeth o faterion. Gallwn helpu gyda materion ariannol megis rheoli dyledion, gwiriadau cymhwysedd budd-daliadau a rheoli eich arian. Mae cyngor ar dai hefyd yn wasanaeth arall poblogaidd, rydym yn helpu gyda diogelwch yn y cartref, arbed ynni a materion llety a thenantiaeth. Rydym hefyd yn rhoi cymorth gyda chynllunio hir dymor a gallwn eich cynghori ar ysgrifennu ewyllys, rheoli cyfoeth a chostau cartrefi gofal.


Mae ein gwasanaeth gwybodaeth wedi ennill Safon Ansawdd Cyngor, felly fod yn dawel eich meddwl fod y gwasanaeth yn cynnig cyngor diduedd y gallwch ddibynnu arno. Galwch draw i weld y tîm (dydd Llun - dydd Iau 9-5pm a dydd Gwener 9-4.30pm).


Er mwyn ymholi ffoniwch 01443 490650 (opsiwn 3).

Share by: