Byw yn Dda ar Lai

Beth yw Byw yn Dda ar Lai?

Fe wnaethom sefydlu Byw'n Dda ar Lai fel ymateb uniongyrchol i'r pwysau sy’n deillio o’r cynnydd mewn costau byw, yn ogystal ag effeithiau parhaus y pandemig. Rydym yn cynnal sioeau teithiol am ddim mewn lleoliadau ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, lle gall pobl ddod i gael cyngor a chymorth.

 

Nod y sioeau teithiol yw helpu pobl i roi hwb i’w lles - yn ariannol, yn feddyliol ac yn gorfforol. Bydd gennym banel cryf o arddangoswyr ar gyfer pob digwyddiad, a byddant yn cynnig cymorth a chyfeiriadau ar y diwrnod yn ogystal ag adnoddau i fynd adref gyda chi.

Pa gymorth allaf ei gael?

  • Rheoli biliau ynni
  • Curo tlodi tanwydd
  • Costau byw yn codi
  • Materion ariannol
  • Byw yn dda pan fyddwch yn hŷn
  • Tai a budd-daliadau
  • Materion iechyd meddwl

Pwy allaf eu cyfarfod yn y sioeau teithiol?

Mae ein harddangoswyr yn newid ym mhob digwyddiad ond byddant bob amser yn cynnwys cyfuniad da o sefydliadau lleol a chenedlaethol. Dyma banel ein sioe deithiol yn Aberdâr.

Ble fyddwch chi nesaf?

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Os hoffech chi arddangos mewn sioe deithiol byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cysylltwch â Ni

Share by: